Валійска-украінская кніга-білінгва
Yr ydym ni, aelodau o fudiad byd-eang i hyrwyddo Esperanto, yn cyfeirio’r maniffesto hwn at bob llywodraeth, sefydliad rhyngwladol a phob un o ewyllys da; ac yn cyhoeddi ein penderfyniad di-sigl i ddilyn y nodau a osodir allan yma, ac i alw ar bob cyfundrefn ac unigolyn i ymuno â ni i weithio tuag at ein nodau.
Ми, члени всесвітнього руху за подальший поступ есперанто, спрямовуємо цей маніфест усім урядам, міжнародним організаціям і людям доброї волі, заявляємо про наш намір надалі неухильно працювати для цілей викладених нижче і запрошуємо всі окремі організації та людей приєднатись до наших устремлінь.
Ers dros ganrif y mae Esperanto, a lansiwyd ym 1887 i fod yn iaith i hwyluso cyfathrebu rhyngwladol ac a ddatblygodd yn gyflym yn iaith gyfoethog yn ei hawl ei hunan iawn, wedi bod yn fodd i ddwyn dynion at ei gilydd gan oresgyn ffiniau iaith a diwylliant. Y mae’r amcanion sydd yn ysbrydoli defnyddwyr Esperanto mor bwysig a pherthnasol ag erioed. Nid yw defnyddio ieithoedd cenedlaethol, ar draws yr holl fyd, datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu, na datblygiad dulliau newydd o ddysgu ieithoedd yn debyg o greu trefn ieithyddol deg ac effeithiol yn unol â’r egwyddorion canlynol, yr ydym ni yn credu eu bod yn hanfodol.
Започатковане в 1887 році як проект допоміжної мови для міжнародного спілкування і швидко розвинуте в життєву, багату відтінками мову, есперанто вже понад сторіччя діє для об´єднання людей, розділених мовними та культурними кордонами. Ані всесвітнє вживання кількох національних мов, ані поступ технічних засобів зв´язку, ані відкриття нових методів навчання мов не реалізує, мабуть, таких засад, які ми вважаємо суттєвими для справедливого та дієвого мовного порядку.
1. Democratiaeth
1. Демократія
Mae unrhyw drefn o gyfathrebu sy’n rhoi braint i rai ar hyd eu oes tra’n mynnu bod eraill yn ymdrechu am flynyddoedd i gyrraedd stad is, yn sylfaenol wrthddemocrataidd. Er nad yw Esperanto rhagor unrhyw iaith arall yn berffaith, y mae’r rhagori ar ieithoedd eraill o safbwynt cydraddoldeb mewn cyfathrebu byd-eang.
Система спілкування, яка постійно надає привілеї одним людям, а від інших вимагає роками докладати зусиль, щоб досягти нижчого рівня дієвоздатності, у своїй основі є недемократичною. Хоча, як і будь-яка мова, есперанто не є досконалим, воно значно переважає своїх опонентів у галузі рівноправності спілкування.
Yr ydym yn dal bod anghydraddoldeb ieithyddol yn achosi anghydraddoldeb ym mhob agwedd ar gyfathrebu, hyd yn oed ar lefel ryngwladol.
Mudiad ydym ni dros gyfathrebu democrataidd.
Ми стверджуємо, що мовна нерівність спричиняє нерівноправність стосунків на всіх рівнях, включно на міжнародному. Ми — рух за демократичне спілкування.
2. Addysg gydwladol
2. Транснаціональна освіта
Y mae pob iaith ethnig ynghlwm wrth ddiwylliant, daearyddiaeth a threfn wleidyddol byd siaradwyr Saesneg, a Phrydain a’r Unol Daleithiau yn amlycaf yn eu plith. Mae plentyn sy’n dysgu Esperanto yn dysgu am fyd diffiniau, lle mae pob gwlad yn gartref.
Кожна етнічна мова пов´язана з визначеною культурою та нацією. Наприклад, учень, який вивчає англійську мову, дізнається про культуру, географію та політичну систему англомовних країн, в основному — США та Британії. Учень, який вивчає есперанто, дізнається про світ без кордонів, у якому кожна країна — наче рідний дім.
Yr ydym yn dal bod addysg mewn unrhyw iaith ynghlwm wrth ddrychfeddwl neilltuol o’r byd.
Mudiad ydym ni dros addysg ar draws y byd.
Ми стверджуємо, що освіта будь-якою етнічною мовою пов´язана з визначеною перспективою світу. Ми — рух за транснаціональну освіту.
3. Addysg effeithiol
3. Педагогічна ефективність
Dim ond canran fechan o fyfyrwyr iaith dramor sydd yn rhugl yn yr iaith y maent wedi’i dewis. Mewn Esperanto y mae’n bosibl dod yn rhugl hyd yn oed wrth astudio gartref. Mae amryw o astudiaethau wedi dangos bod Esperanto yn ddefnyddiol fel paratoad i ddysgu ieithoedd eraill. Y mae wedi cael ei hargymell fel conglfaen mewn cyrsiau am ymwybyddiaeth ieithyddol.
Лише незначний відсоток тих, хто вивчає іноземну мову, оволодіває нею. Цілковите освоєння есперанто можливе навіть завдяки самонавчанню, а різноманітні дослідження свідчать про пропедевтичну дієвість для навчання інших мов. Есперанто також рекомендують як основний розділ курсу усвідомлення учнями мов.
Yr ydym yn dal y bydd anawsterau dysgu ieithoedd ethnig yn parhau’n rhwystr i lawer o fyfyrwyr y byddai gwybod ail iaith o fudd iddynt. Mudiad ydym ni dros ddysgu ieithoedd yn effeithiol.
Ми стверджуємо, що складність етнічних мов завжди створює перешкоди для багатьох учнів, які однак, могли б виграти від знання мови. Ми — рух за ефективне навчання мов.
4. Amlieithrwydd
4. Багатомовність
Y mae cymdeithas Esperanto bron yn ddigymar fel cymdeithas fyd-eang y mae ei haelodau naill ai’n ddwyieithog neu’n amlieithog. Y mae pob aelod o’r gymdeithas wedi gwneud ymdrech i ddysgu o leiaf un iaith dramor i safon cyfathrebu. I lawer ohonynt, y mae hyn yn arwain at gariad a gwybodaeth o lawer o ieithoedd ac yn ehangu eu gorwelion personol.
Есперантська громада є однією з небагатьох світових мовних громад, усі без винятку члени якої є дво- або багатомовними. Кожен член громади прийняв завдання засвоїти принаймі одну чужу мову на рівні спілкування. У багатьох випадках це призводить до знання багатьох мов і поваги до них, що розширює особистий світогляд.
Yr ydym o’r farn y dylai siaradwyr pob iaith, bach a mawr, gael cyfle i ddysgu ail iaith i safon uchel o gyfathrebu.Mudiad ydym ni a all ddarparu’r cyfle hwnnw i bawb.
Ми стверджуємо, що носії всіх мов, великих чи малих, повинні б мати реальнішу можливість для освоєння другої мови на високому комунікативному рівні. Ми — рух за надання такої можливості.
5. Hawliau iaith
5. Мовні права
Y mae rhannu grym yn anghyfartal rhwng ieithoedd yn arwain at anniogelwch ieithyddol parhaol, neu orthrwm ieithyddol uniongyrchol ar ran helaeth o bobl y byd. Mewn cymdeithas Esperanto y mae siaradwyr ieithoedd swyddogol ac answyddogol yn cyfarfod ar fel bodau cydradd yn rhinwedd parodrwydd y naill a’r llall i gymrodeddu. Y mae cydbwysedd hawliau a chyfrifoldebau ieithyddol yn creu llwyfan i ddatblygu a barnu dehongliadau eraill o anghydraddoldeb ac anghytundeb ieithyddol.
Нерівний розподіл влади між мовами для значної частини населення світу є рецептом для постійної мовної небезпеки або безпосереднього мовного гніту. В есперантській громаді носії мов великих і малих, офіційних і неофіційних, збираються на нейтральному терені завдяки взаємній волі до компромісів. Така рівновага між мовними правами та відповідальністю створює прецедент для розвитку й оцінки інших вирішень мовної нерівності та мовних конфліктів.
Yr ydym yn dal bod gwahaniaethau enfawr mewn grym rhwng ieithoedd yn tangloddio’r gwarantu a fynegwyd mewn llawer dogfen rhyngwladol o driniaieth gyfartal heb sylw o iaith. Mudiad ydym ni dros hawliau iaith.
Ми стверджуємо, що значна різниця в силі мов підриває ґарантії щодо рівноправності незалежно від мови, висловлені в багатьох міжнародних документах. Ми — рух за мовні права.
6. Amrywiaeth ieithyddol
6. Мовне різноманіття
Y mae llywodraethau cenedlaethol yn tueddu i drin yr amrywiaeth eang ieithoedd y byd fel petai’n rhwystr i gyfathrebu ac i ddatblygiad. Mewn cymdeithas Esperanto, sut bynnag, ystyrir amrywiaeth ieithyddol yn ffynhonnell gyson ac anhepgor i gyfoethogiad. O ganlyniad, mae pob iaith, fel pob rhan arall o fywyd, yn gynhenid werthfawr ac yn deilwng o gael ei gwarchod a’i chynnal.
Національні уряди схильні вважати, що різноманіття мов у світі є перешкодою для спілкування і розвитку. Однак, для есперантської громади різноманітність мов є постійним наявним джерелом багатства. Звідси, кожна мова, як різновид живого буття, є цінною сама по собі й гідною захисту та підтримки.
Yr ydym yn dal bod polisïau cyfathrebu a datblygiad nad ydynt wedi’u seilio ar barch ac ymgeledd tuag at holl ieithoedd y byd yn condemnio’r rhan fwyaf o ieithoedd y byd i farwolaeth. Mudiad ydym ni dros amrywiaeth ieithol.
Ми стверджуємо, що політика спілкування і розвитку, якщо вона не базується на повазі до всіх мов та їх підтримці, призводить до вимирання більшості мов світу. Ми — рух за мовну різноманітність.
7. Rhyddid dynol
7. Емансипація людини
Y mae pob iaith yn rhyddhau ac yn carcharu ei defnyddwyr, yn rhoi’r gallu iddynt i gyfathrebu ymysg ei gilydd ond yn eu rhwystro rhag cyfathrebu ag eraill. A hithau wedi ei chynllunio fel modd hygyrch i gyfathrebu ar draws yr holl fyd, y mae Esperanto yn un o’r cynlluniau mwyaf effeithiol i ryddhau dynoliaeth, un sydd yn anelu at alluogi unigolion i gymryd rhan mewn cymdeithas ddynol, yn ddiogel wreiddiedig yn eu diwylliant lleol a’u hiaith gyffredin ond eto heb eu cyfyngu ganddynt.
Кожна мова звільнює та ув´язнює своїх носіїв, даючи їм змогу спілкуватись між собою та заважаючи — з іншими. Сплановане як засіб загального спілкування, есперанто є одним з великих діючих проектів емансипації людини — проект, що уможливлює кожній людині як особистості брати участь в житті громади, з міцними коренями своєї місцевої та мовної ідентичності, а не відмежовуючись від них.
Yr ydym yn dal bod dibyniaeth gyfan gwbl ar iaith genedlaethol yn rhwystro hunanfynegiant, cyfathrebu a chymdeithasu. Mudiad ydym ni dros ryddid dynol.
Ми стверджуємо, що виключне вживання національних мов неуникно ставить перешкоди свободам самовираження, стосунків і об´єднання. Ми — за емансипацію людини.
Prago, jul. 1996
Prago, jul. 1996
Рэклама